Beth ydym yn ei Gynnig?

Gallwn gynnig y gwasanaeth ymgeisio am drwydded ac ymgynghori ffi sefydlog mwyaf fforddiadwy i chi.  Am ffi misol sefydlog isel byddwch yn medru manteisio ar ein holl wasanaethau pan fydd eu hangen arnoch.  Byddwn yn gwneud yr holl geisiadau sydd eu hangen arnoch heb unrhyw gost ychwanegol.  Gallwch ei ystyried fel cael ein gwasanaeth ar gadw fel y gallwn roi cyngor ac arweiniad i chi pa bryd bynnag mae ei angen arnoch heb orfod poeni am unrhyw gostau ychwanegol.  Byddwn hefyd yn cynnal prawf risg ysbeidiol o’ch busnes er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i weithredu i’r safon uchaf.

 

Bydd ein ffioedd misol yn costio llai i chi dros gyfnod o flwyddyn na chost cais trwydded llawn nifer o’n cystadleuwyr.  Dyma’r ffordd fwyaf effeithlon o reoli eich trwydded alcohol ac adloniant.